| Please see bottom of page for welsh translation |
| |
| What is Flying Start? |
| Flying Start is a Welsh Assembly funded project targeted at the areas of highest need throughout Wales, which aims to provide children 0 - 4 years of age with the best possible "Flying Start" in life. |
| |
| Where are the Flying Start areas in Rhondda Cynon Taf? |
| Rhondda Cynon Taf has the second largest Flying Start project covering fourteen school catchment areas. These areas include: Aberllechau Gilfach Goch Glenboi Glyncoch Maerdy Penrhys Penywaun Perthcelyn Pontrhondda Rhiwgarn Rhydyfelin Trealaw Tylorstown Ynysboeth Within these fourteen areas Flying Start provides: Increased Health Visiting support Free sessional childcare for 2 – 3 years olds Parent support provision Language and Play Programmes Childcare Workforce Development is also provided to continually improve the quality of childcare provided. Further information on these services can be found via the links on the left hand side of this page. |
| |
| What does Flying Start mean for me? |
| If you live in one of the areas listed your child/ren are entitled to free high quality childcare from the term following their second birthday. Childcare is provided for 12.5 hours per week in five 2.5 hour sessions. You will receive extra health visiting support as we have reduced the number of families each Health Visitor workes with by providing more than double the number of Health Visitors previously working in each area. A range of parent support programmes will be available to you, ranging from Support Groups to Baby Massage and Aqua Tots. More Language and Play programmes are available in each area with an increased range of advice and activities. If you want to work in childcare then we can help by providing free access to childcare qualifications. |
| |
| Where can I find and access Flying Start? |
| In each of the Flying Start areas there is/or will be a Flying Start sessional childcare facility. This facility will also be linked to, or contain, rooms where other services can be delivered. Your Health Visitor will be based in your Flying Start area and will be more readily available for support and guidance. Your Flying Start School will have information about the Flying Start services available in your area, in some cases services will also be provided in your nearest school. To access these services, the only criteria you have to met is that you live within the set catchment area. If you do your Health Visitor will let you know about the service available to you in your own area, alternatively you can contact the Family Information Service or the Flying Start Core Team via the Contact Us link |
| |
| Beth yw Rhaglen Dechrau'n Deg? |
| Cynllun wedi’i noddi gan Gynulliad Cymru yw Dechrau’n Deg ar gyfer plant 0-4 oed sy’n byw yn yr ardaloedd hynny mae angen ei gymorth fwyaf. Ei nod yw rhoi ‘Dechrau deg’ gorau posibl mewn bywyd i’r plant. |
| |
| Pa Ardaloedd yn Rhondda Cynon Taf sy'n rhan o Gynllun Dechrau'n Deg? |
| Cynllun Dechrau’n Deg Rondda Cynon Taf yw’r ail gynllun mwyaf o’i fath gan ei fod yn gwasanaethu 14 o ddalgylchoedd ysgolion, gan gynnwys: Aberllechau Y Gilfach-Goch Glen-bói Glyn-Coch Y Maerdy Pen-rhys Pen-y-waun Perthcelyn Pontrhondda Rhiw-garn Rhydfelen Trealaw Tylorstown Ynysboeth Yn y 14 o ardaloedd yma, mae Rhaglen Dechrau’n Deg yn darparu: Rhagor o gymorth oddi wrth ymwelwyr iechyd Gofal plant sesiynol am ddim i blant 2-3 oed Cymorth i rieni Rhaglenni Iaith a ChwaraeMae Gwasanaeth Datblygu Gweithlu Gofal Plant ar gael i ofalu bod ansawdd gofal plant yn gwella’n barhaus. I gael rhagor o fanylion am y gwasanaethau yma, cliciwch ar y dolenni cyswllt ar y chwith. |
| |
| Sut mae hynny’n effeithio arna i? |
| Os ydych chi’n byw yn un o’r ardaloedd hynny sy wedi’u rhestru uchod, mae hawl gyda’ch plentyn i fanteisio ar ofal plant o ansawdd dda yn rhad ac am ddim gan ddechrau yn ystod y tymor ar ôl ei ben-blwydd yn 2 oed. Mae darparu gofal plant am 12.5 awr yr wythnos gyda phob un o’r 5 sesiwn yn para 2.5 awr. Byddwch chi’n cael cymorth ychwanegol oddi wrth Ymwelwyr Iechyd gan ein bod ni wedi gostwng nifer y teuluoedd mae pob ymwelydd iechyd yn gweithio gyda. Rydyn ni wedi cynyddu nifer yr ymwelwyr iechyd sy’n gweithio yn ardaloedd yma o fwy na 100% er mwyn gwneud hynny. Mae ystod o raglenni cymorth i rieni ar gael ar eich cyfer chi gan gynnwys cylchoedd cymorth, sesiynau tylino babanod ac Aqua Tots. Mae rhagor o raglenni Iaith a Chwarae ar gael ym mhob ardal ynghyd ag ystod fwy eang o gyngor a gweithgareddau. Os hoffech chi weithio ym maes gofal plant, mae modd inni roi cymorth ichi ennill cymwysterau perthnasol heb ofyn ichi dalu amdanyn nhw. |
| |
| Ble a sut ca i fanteisio ar gynllun Dechrau’n Deg? |
| Darperir cyfleuster gofal plant sesiynol ym mhob ardal cynllun Dechrau’n Deg, a bydd ystafelloedd yno lle bydd modd cyflwyno gwasanaethau eraill. Bydd eich Ymwelydd Iechyd yn gweithio yn eich ardal Dechrau’n Deg chi, a bydd hi’n haws ichi ofyn iddo am gymorth ac arweiniad. Bydd gwybodaeth am weithgareddau cynllun Dechrau’n Deg sydd ar gael yn eich ardal chi gyda’ch ysgol, os yw hi’n rhan o’r cynllun. Mewn rhai achosion bydd y gweithgareddau’n cael eu cynnal yn eich ysgol. I fanteisio ar y gwasanaethau yma, yr unig feini prawf mae gofyn ichi’i bodloni ydy eich bod chi’n byw mewn dalgylch sy wedi’i phennu. Os ydych chi, bydd eich Ymwelydd Iechyd yn rhoi gwybod ichi ynglŷn â’r gwasanaethau hynny sydd ar gael yn eich ardal chi, fel arall, cysylltwch â’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd neu Garfan Ganolog Rhaglen Dechrau’n Deg trwy glicio ar Ddolen Gyswllt Cysylltu â Ni. |
| |
| |